Return to Google homepage.

 Nodweddion Google

Cartref

Popeth am Google

    Cymorth Chwiliad

» Nodweddion Google

    Mwy o ffyrdd i Google 

Nodweddion Arbennig Google

Chwiliad am Lun (BETA)

Mae Chwiliad am Lun Google yr un mwyaf cyfansawdd ar y We gyda mwy na 250 miliwn o luniau wedi eu mynegeio ac ar gael i'w gweld. I ddefnyddio chwiliad am lun, ewch i'r dudalen chwiliad uwch neu http://www.google.com/imghp?hl=cy ac rhoi holiad yn y blwch chwilio ac yna clicio ar y botwm "Chwilio". Ar y dudalen ganlyniadau cliciwch ar y gewin bawd i gael fersiwn fwy o'r llun ac o'r dudalen yr ymddangosa'r llun arni. (Noder: i gael hyn, rhaid i'r iaith rhyngwyneb gael ei gosod i Saesneg ar y dudalen Dewis.)

Gall fod lluniau ganfydda Google fod wedi eu gwarchod a hawlfraint. Er y gallwch ganfod a gweld y lluniau, ni allwn roi yr hawl i chi eu defnyddio i ddim byd arall, ond eu gweld dros y We. Felly, os yr ydych am ddefnyddio unrhyw lun, cynghorwn chwi i gysylltu a pherchenog y safle i ofyn caniatäd.

RHYBUDD: Gellir cael lluniau anaddas drwy ddefnyddio y nodwedd hwn. Mae Google yn cysidro sawl ffactor i benderfynu a yw llun yn addas i'ch chwiliad. Gall hyn adael lluniau anaddas i mewn yn eich canlyniadau.

Am fwy o wybodaeth am y nodwedd hwn, darllenwch y dudalen COYA (FAQ)chwiliad lluniau.


Cyfieithu Tudalen Gwe

Gall Google dorri'r rhwystr iaith drwy ddefnyddio nodwedd cyfieithu newydd (BETA). Trwy ddefnyddio rhaglen cyfieithu, mae Google yn galluogi siaradwyr Saesneg gael cyfieithiad o amrywiol dudalenau ieithoedd eraill.

Os yw eich chwiliad yn cynnwys canlyniadau heb fod yn Saesneg, bydd yna linc i gyfieithiad Saesneg o'r dydalen.

Os yr ydych am gael cyfieithiad o'r teitl a'r crynhodeb yn Saesneg rhaid troi'r opsiwn cyfieithu ymlaen ar y dudalen dewisiadau. Gyda'r nodwedd yma ymlaen, bydd Google yn cyfieithu canlyniadau chwiliad yn awtomatig i'r Saesneg.

Am fwy o wybodaeth am y nodwedd hwn, darllenwch ein tudalen COYA (FAQ) am gyfieithu.


Canfod ffeiliau PDF

Mae canlyniadau chwiliad Google yn awr yn cynnwys ffeiliau Adobe Portable Document Format (PDF). Er nad yw ffeiliau PDF mor niferus a rhai HTML, maent yn aml yn cynnwys gwybodaeth o ansawdd uchel na geir yn unlle arall.

I nodi fod ffeil yn un PDF yn hytrach na thudalen Gwe, bydd [PDF] yn ymddangos mewn glas ar ddechrau'r teitl. Bydd y ffeil angen y rhaglen Acrobat Reader i'w gweld. Cliciwch ar y teitl i'r ffeil i'w llwytho (Os nad oes Acrobat Reader ar y cyfrifiadur fe gewch eich cyfeirio i safle lle cewch ei lawrlwytho am ddim.)

Gyda ffeiliau PDF bydd y linc "Storfa Dros Dro" wedi cael ei newid i "Fersiwn Testun". Copi union ydi'r fersiwn testun o'r ffeil PDF ond hefo'r holl orchmynion fformatio wedi ue dileu.

Os yr hoffech weld canlyniadau heb linciau PDF, yn syml teipiwch -filetype:pdf yn y blwch chwilio gyda eich term(au) chwiliad.


Linciau Storfa Dros Dro

Fe gymer Google giplun o bob tudalen a edrychir arni a'i rhoi mewn storfa rhag ofn an fydd y dudalen weriddiol ar gael. Os y cliciwch ar y linc "Storfa Dros Dro" fe welwch y tudalen fel yr oedd pan wnaethom ni edrych arni ddiwethaf. Bydd y dydalen yn y storfa yn cael ei defnyddio i bendrefynu a yw'r dudalen yn fats da i'ch chwiliad.

Pan yn arddangos tudalen or storfa dros dro, bydd yna bennawd iddi yn dweud mai fersiwn o'r storfa yw ac nid y dudalen ei hun. Bydd y termau eich chwiliad wedi eu hamlygu ar y dudalen i'w gwneud yn haws asesu a ydi hi'n un rydych ei hangen.

Ni fydd linciau "Storfa" ar gael i safleoedd na fynegeiwyd, yn ogystal ag i safleoedd ble gofynnodd y perchenog i ni beidio cadw copi storfa ohonynt.


Tudalennau Tebyg

Pan yn clicio ar y linc "Tudalennau Tebyg" i ganlyniad chwiliad, bydd Google yn chwilio'n awtomatig am dudalennau sy'n perthyn i'r dudalen hon.

Mae'r linc "Tudalennau Tebyg" yn ddefnyddiol iawn. Os yn hoffi cynnwys safle arbennig gallwch ddefnyddio'r linc yma i gael gafael ar safleoedd a chynwys tebyg. Os yn chwilio am wybodaeth am nwyddau, gall "Tudalennau Tebyg" ganfod gwybodaeth gystadleuol i chi, fel y cewch y fargen orau. Os yn ymchwilio i un maes arbennig, gall eich cynorthwyo i ddarganfod llawer iawn o safleoedd yn gyflym, heb boeni am pa allweddeiriau ddefnyddir ar y safleoedd hynny.

Mae Google yn canfod tudalennau tebyg i sawl miliwn o dudalennau'r We. Ond y mwyaf arbenigol fo tudalen y lleiaf o ganlyniadau gawn. Er engraifft, efallai na all Google ddarganfod prethynas i'ch tudalen gartref a thudalennau eraill gan nad oes digon o wybodaeth yn eu cysylltu. Yn aml mae cwmniau yn defnyddio sawl URL i'w tudalennau (fel google.com a www.google.com) a gall fod yna fwy o wybodaeth ar un ddudalen na'r llall. Ond yn gyffredin, mae "Tudalennau Tebyg" yn gweithio'n dda i'r mwyafrif o dudalennau.


Canfod pwy sydd a linciau i chi

Pan fo colon yn dilyn gair mae ganddo ystyr arbennig i Google. Un o'r māth yma o air yw y gweithredydd linc:. Bydd yr ymholiad linc: enw URL yn dangos pob tudalen sydd yn pwyntio at y dudalen. Er engraifft, fe gewch weld pob linc at tudalen gartref Google gyda link:www.google.com. Ni allwch gyfuno chwilwid linc: gydag un arferol.

esiampl:  




Cyfyngiad Parth

Mae rhai geiriau a ddilynir gan golon a ystyr arbennig i Google. Mae'r gweithredyn "safle:" yn un o'r rhain. I chwilio safle neu barth arbennig defnyddiwch y ffurf yma "site:sampledomain.com" ym mlwch chwilio Google.

Er engraifft, i gael gwybodaeth y wasg ar safle Google mewnrowch:

esiampl:  

 


Dwi'n Teimlo'n Lwcus

Bydd y botwm "Dwi'n Teimlo'n Lwcus" yn eich anfon yn awtomatig i'r dudalen gyntaf ro Google i chi yn y chwiliad. Ni welwch y canlyniadau chwilio eraill o gwbl. Bydd chwiliad "Dwi'n Teimlo'n Lwcus" yn golygu llai o amser chwilio a mwy o amser yn edrych ar safleoedd.

Er engraifft, i gael tudalen gartref Prifysgol Stanford rhowch Stanford yn y blwch chwilio a chlicio ar fotwm "Dwi'n Teimlo'n Lwcus". Fe aiff Google a ch yn syth i "www.stanford.edu", sef tudalen gartref swyddogol y Brifysgol.

esiampl:  



Yn teimlo'n lwcus?

o ooO