Cwestiynnau Ofynir Yn Aml am Chwiliad Lluniau Google
Lle gallaf gael Chwiliad Lluniau Google?
Cewch chwiliad lluniau ar dudalen chwiliad uwch Google yn ogystal ag yn http://www.google.com/imghp?hl=cy. I'w gael, rhaid i'r iaith rhyngwyneb fod yn Saesneg ar y dudalen dewisiadau.
A oes yna gyfyngiadau hawlfraint ar y lluniau?
Gall fod lluniau ganfydda Google fod wedi eu gwarchod a hawlfraint. Er y gallwch ganfod a gweld y lluniau, ni allwn roi yr hawl i chi eu defnyddio i ddim byd arall, ond eu gweld dros y We. Felly, os yr ydych am ddefnyddio unrhyw lun, cynghorwn chwi i gysylltu a pherchenog y safle i ofyn caniatäd.
Pam fod Google yn dangos lluniau mewn ffrâm?
Mae'r ffrâm uchaf yn eich galluogi gael fersiwn ychydig yn fwy o'r pen bawd ac yn rhoi url y llun. Cewch linc i'r ffeil .jpg neu .gif drwy glicio'r llun pen bawd.
Mae'r ffram isaf yn dangos y llun yn ei cyd-destun gwreiddiol.
Sut dwi'n defnyddio chwiliad llun?
I ddefnyddio chwiliad llun teipiwch eich holiad yn y blwch chwilio ac yna gliciwch ar y botwm "Chwilio" neu ar "Enter" ar yr allweddell. Pan gewch y canlyniadau cliciwch ar y llun pen bawd 'rydych am ei weld. Bydd hyn yn arddangos fersiwn fwy o'r llun a'r dudalen sy'n cynnwys y llun gwreiddiol.
Sut dwi'n atal lluniau anaddas?
Mae Chwiliad Llun Google yn defnyddio hidlydd i gael gwared a lluniau anaddas o'ch chwiliad gwreiddiol. Bydd yr hidlo yn cael gwared a'r rhan fwyaf o luniau anaddas ond does dim gwarant y bydd pob un tn cael ei hatal. I droi'r hidlydd i ffwrdd, cliciwch ar y linc ddywed "hidlydd cynnwys aeddfed ymlaen".
Does yna ddim ffordd o fod gant y cant gwbl ffyddiog yr hydlir deunydd anaddas o chwiliad drwy ddefnyddio'r hydlyddion.
A yw'r hydlydd cynnwyd aeddfed yn gweithio ym mhôb iaith?
Na. Dim ond yn y Saesneg mae'r hidlydd yn gweithio ar hyn o bryd.
Sut dwi'n troi'r hidlydd cynnwys aeddfed i ffwrdd?
O dan y blwch chwilio llun ar y dudalen chwilio mae yna linc i droi'r hidlydd cynnwyss aeddfed i ffwrdd. Drwy glicio arno gallwch newid rhwng ei gael ymlaen neu i ffwrdd. Unwaith mae'r hidlydd i ffwrdd bydd yn aros i ffwrdd am weddill y sesiwn ac fe fydd i ffwrdd ar eich ymweliad nesaf i Chwiliad Llun Google.
Sut mae chwiliad llun yn gweithio?
Mae Google yn dadansoddi'r testun yn ymyl y llun, capsiwn y llun a dwsinau o ffactorau eraill i benderfynu ar gynnwys y llun. Drwy ddefnyddio algorithmau soffistigedig mae Google yn gwahardd dyblygu a bod y llun uchaf ei ansawdd yn cael ei roi gyntaf yn y chwiliad.
Sut ydwi'n dileu llun hawlfraint nad ydwyf am ei arddangos?
I ddileu llun hawlfraint o'r canlyniadau ewch i: http://www.google.com/intl/cy/remove.html. Ar y dudalen hon cewch gyfarwyddiadau ar sut i gysylltu a ni ynglyn a dileu lluniau hawlfraint.
Pam fod Google yn dangos llun mewn ffrâm pan dwi'n clicio arno?
Mae Google yn dangos llun mewn ffrâm fel y gallwch weld y llu a'r dudalen mae ynddo ar yr un pryd. Felly cewch weld y llun yn ei gyd-destun gwreiddiol.
Sut ydwi'n chwilio am lun gyda estyniad mâth o ffeil arbennig?
O'r blwch chwilio uwch cewch nodi'r estyniad mâth o ffeil drwy ddefnyddio'r gweithredyn filetype: yn eich holiad. Er engraifft, os am weld lluniau blodau yn fformat .jpg, yna rhowch [ flower filetype:jpg ] yn y blwch chwilio.
Ni chefais lun dwi'n gwybod sydd ar-lein gyda fy chwiliad. Pam?
Cewch chwilio mwy na 250 miliwn i luniau ar y We gyda Chwiliad Llun Google. Ond mae yna lawer mwy o luniau ar y we nag a sydd ym mynegai Google. Mae Google yn gyson gropian y we i gael mwy o luniau o ansawdd uchel yn y mynegai, felly mae'n debygol y bydd y llun y chwilwyd amdano ar gael yn y dyfodol agos.
A allaf wneud chwiliadau cymleth gan ddefnyddio gweithredynau Boolaidd a gorchmynion eraill Google i gael llun?
Cewch ddefnyddio pob gweithredyn a allwch eu defnyddio a thestun i wneud chwiliad am lun. Er engraifft, cewch ddefnyddio site: i gyfyngu chwiliad i un safle. Felly, i gael lluniau o lemurs ar safle Duke Primate Center, yr holiad fyddai " site:duke.edu lemurs".

